Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu
Nodiadau o'r cyfarfod cyntaf ar 11 Mai 2022. Roedd y cyfarfod ar Zoom.
Pobl a ddaeth i'r cyfarfod
• Sioned Williams AS - Aelod o'r Senedd, Cadeirydd
• Mark Isherwood AS - Aelod o'r Senedd
• Heledd Fychan AS - Aelod o'r Senedd
• Samantha Williams - Anabledd Dysgu Cymru, Ysgrifennydd
• Zoe Richards - Anabledd Dysgu Cymru
• Grace Krause - Anabledd Dysgu Cymru
• Wayne Crocker – Mencap Cymru
• Joe Powell - Pobl yn Gyntaf Cymru
• Kelly Stuart - Pobl yn Gyntaf Cymru
• Sara Pickard – Mencap Cymru
• Paul Hunt – Mencap Cymru
• Julian Hallet - Cymdeithas Syndrom Down
• Kirsty Rees
• Ryland Doyle
Tudalen 1
Pobl a ddywedodd nad oeddwn nhw’n gallu dod i’r cyfarfod
• Mandy Powell – Cymorth Cymru
• Kate Young – Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan
• Mike Hedges AS – Aelod o'r Senedd
• Rhun ap Iorwerth AS – Aelod o'r Senedd
Gwybodaeth am y ddogfen yma
Fersiwn hawdd ei deall yw’r daflen yma. Mae’r geiriau a’r hyn maen nhw’n ei feddwl yn hawdd i’w darllen a’u deall.
Gallai’r geiriau mewn ysgrifen las trwm fod yn anodd eu deall. Mae eglurhad o’r geiriau mewn bocs o dan y gair. Gallwch chi weld beth yw ystyr yr holl eiriau glas ar dudalen 9.
Tudalen 2
Croesawodd Zoe o Anabledd Dysgu Cymru bawb i'r cyfarfod.
Esboniodd Zoe fod grŵp o sefydliadau wedi penderfynu dechrau'r Grŵp Trawsbleidiol hwn ar gyfer Anabledd Dysgu.
Maen nhw am i'r grŵp edrych ar y problemau y mae pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru'n eu hwynebu yn eu bywydau.
Dyma’r sefydliadau wnaeth benderfynu dechrau'r grŵp:
• Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan
• Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
• Cymorth Cymru
• Cymdeithas Syndrom Down
• Anabledd Dysgu Cymru
• Mencap Cymru
Tudalen 3
Dywedodd Wayne o Mencap Cymru fod gan Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon grwpiau trawsbleidiol ar anabledd dysgu yn barod.
Mae'n dda iawn bod gan Gymru grŵp erbyn hyn hefyd.
2. Pleidleisio dros ysgrifennydd y grŵp
Gofynnodd Zoe a oedd y grŵp eisiau pleidleisio dros Samantha Williams o Anabledd Dysgu Cymru i fod yn ysgrifennydd y grŵp.
Yr ysgrifennydd yw'r person neu'r sefydliad sy'n gyfrifol am drefnu'r grŵp. Er enghraifft, trefnu cyfarfodydd ac anfon agendâu.
Pleidleisiodd y grŵp dros Samantha.
3. Pleidleisio dros Gadeirydd y grŵp
Gofynnodd Samantha i'r grŵp a oedden nhw am bleidleisio dros yr Aelod o'r Senedd Sioned Williams i fod yn Gadeirydd y grŵp.
Cadeirydd y grŵp yw'r person sy'n arwain y cyfarfodydd.
Pleidleisiodd y grŵp dros Sioned.
Tudalen 4
Rhoddodd Joe o sefydliad Pobl yn Gyntaf Cymru gyflwyniad am ein rhesymau dros ddechrau’r grŵp yma a beth rydyn ni'n gobeithio ei wneud.
Dywedodd Joe fod llawer o bethau sy'n effeithio ar bobl ag anabledd dysgu mewn ffyrdd gwahanol i bobl eraill. Mae hyn yn cynnwys pobl anabl eraill.
Soniodd Joe am rai o'r problemau i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru:
• IechydYn aml, mae gan bobl sydd ag anabledd dysgu iechyd gwaeth na phobl eraill. Weithiau nid ydyn nhw’n cael eu trin yn deg neu’n iawn gan wasanaethau iechyd.
• TaiWeithiau, mae pobl ag anabledd dysgu yn cael eu hanfon i fyw yn bell o'u teulu, eu ffrindiau a'u cymuned. Weithiau maen nhw hefyd yn cael eu hanfon i fyw mewn ysbytai.
• Rhieni a gofalwyr. Mae angen i rieni a gofalwyr pobl sydd ag anableddau dysgu gael y gefnogaeth gywir hefyd.
Tudalen 5
• Arferion cyfyngol. Mae’r term yma yn cael ei ddefnyddio weithiau gan bobl sy'n gweithio gyda phobl sydd ag anabledd dysgu neu’n gofalu amdanyn nhw.
Arferion cyfyngol yw pan mae pobl yn ceisio rheoli eich ymddygiad chi drwy eich rhwystro chi rhag gwneud pethau. Mae hyn yn gallu cynnwys pethau fel eich dal chi i lawr. Neu eich rhoi chi mewn ystafell ar eich pen eich hun.
Mae Arferion cyfyngol yn gallu gwneud i chi deimlo’n ofidus iawn.
Weithiau mae'n gallu brifo neu hyd yn oed ladd pobl.
• Llais, dewis a rheolaeth. Mae angen i bobl gydag anabledd dysgu allu siarad drostyn nhw eu hunain. Neu os na allan nhw siarad drostyn nhw eu hunain, mae angen eiriolwr i siarad ar eu rhan nhw.
Does dim digon o arian ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth a hunan-eiriolaeth i bobl ag anabledd dysgu ledled Cymru.
Mae eiriolwr neu eiriolaeth yn golygu rhywun sy'n siarad ar ran rhywun arall. Er enghraifft, am hawliau neu beth sydd ei angen ar y person.
Mae hunan-eiriolaeth yn golygu codi llais am beth sy'n bwysig i chi.
Tudalen 6
Siaradodd y grŵp am:
• pa mor aml maen nhw am gyfarfod
? • pryd maen nhw am gyfarfod
• ble maen nhw am gyfarfod
• beth maen nhw am siarad amdano mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Penderfynodd y grŵp gael o leiaf 4 cyfarfod bob blwyddyn.
Os bydd rhywbeth pwysig yn codi, efallai y bydd y grŵp yn cael cyfarfod ychwanegol i siarad amdano.
Penderfynodd y grŵp gynnal rhai o'r cyfarfodydd ar-lein.
Dywedon nhw hefyd y bydden nhw'n hoffi cael o leiaf 1 cyfarfod nad yw’n cael ei gynnal ar-lein fel bod pobl yn gallu cwrdd wyneb yn wyneb.
Penderfynodd y grŵp y byddai cyfarfodydd yn agored i bawb yn y dyfodol.
Tudalen 7
Bydd o leiaf hanner y bobl sy'n rhoi cyflwyniadau mewn cyfarfodydd yn bobl ag anabledd dysgu.
Cytunodd y grŵp y byddan nhw'n siarad am iechyd yn y cyfarfod nesaf.
Bydd y grŵp yn gofyn i bobl sydd ag anabledd dysgu beth arall maen nhw eisiau i'r grŵp siarad amdano mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Tudalen 8
Eiriolwr neu eiriolaeth
Mae eiriolwr neu eiriolaeth yn golygu rhywun sy'n siarad ar ran rhywun arall. Er enghraifft, am hawliau neu beth sydd ei angen ar y person.
Cadeirydd
Cadeirydd y grŵp yw'r person sy'n arwain y cyfarfodydd.
Arferion cyfyngol
Arferion cyfyngol yw pan mae pobl yn ceisio rheoli eich ymddygiad chi drwy eich rhwystro chi rhag gwneud pethau. Mae hyn yn gallu cynnwys pethau fel eich dal chi i lawr. Neu eich rhoi chi mewn ystafell ar eich pen eich hun.
Ysgrifennydd
Yr ysgrifennydd yw'r person neu'r sefydliad sy'n gyfrifol am drefnu'r grŵp. Er enghraifft, trefnu cyfarfodydd ac anfon agendâu.
Hunan-eiriolaeth
Mae hunan-eiriolaeth yn golygu codi llais am bethau sy'n bwysig i chi.
Tudalen 9